Ydych chi'n adnabod rhywun sy'n byw â Dementia?
Cwrs Gwybodaeth am ddim
Ydych chi'n adnabod rhywun sy'n byw â Dementia? Hoffech ddysgu mwy am:
- Beth yw dementia
- Newidiadau i'r ymennydd ac effeithiau y gallai eu cael ar yr unigolyn
- Mater cyfreithiol/Pŵer parhaol twrnai/Gwneud ewyllys
- Cynllunio gofal ymlaen llaw
- Ffordd iach o fyw
- Byw'n dda ac yn ddiogel gartref
- Hawliau ariannol
- Pwysigrwydd iechyd corfforol
- A llawer mwy o gyngor a chefnogaeth
Cwrs gwybodaeth AM DDIM a hwylusir gan weithwyr proffesiynol y GIG sy'n arbenigo mewn gofal dementia, gyda siaradwyr gwadd o fewn y GIG, y Gwasanaethau Brys, Gofal Cymdeithasol a sefydliadau Trydydd Parti. Mae lleoliadau lleol, Cyrsiau wyneb yn wyneb a Chyrsiau Tu Allan i oriau ar-lein ar gael.
Ffoniwch Dîm MECS ar 01495 768627 neu anfonwch e-bost at wybodaeth ar gyfer eich ardal leol Neu siaradwch fel arall â gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol i gael eich cyfeirio.